Mae gen i gyfieiriad at rywun sydd â Bt ar ôl ei enw. Gall hyn olygu
'Baronet' neu 'Brevet' yn Saesneg. Mae Bruce yn cynnig cyfieithiad
(gwahanol) ar gyfer y ddau derm, ac mae ystyr y ddau derm yn wahanol.
Mae dau bwynt yn codi yma:
1. Oes rhestr Gymraeg yn bodoli neu ar y gweill o dalfyriadau o'r fath?
a
2. All unrhyw un feddwl am ffordd o ddatrys y broblem uchod am nad ydyn ni'n
gwybod pa 'Bt' oedd y dyn o dan sylw (a fu farw ym 1949), yn ddelfrydol heb
ddefnyddio'r Saesneg (am y byddai hyn yn gwneud y cofnod hwn yn anghyson â'r
lleill lle nad oes problem wedi codi)? O edrych ar Eiriadur Bruce, dim ond y
llythyren B allai fod yn gyffredin rhwng y ddau, a heb ffynhonnell
ysgrifenedig sy'n nodi ystyr y talfyriad B, does dim gobaith i'r darllenydd
ddeall.
Rhag ofn y bydd rhwyun yn digwydd gwybod am y dyn o dan sylw, Syr Evan
Davies Jones oedd e, cafodd radd LLD er anrhydedd gan y Brifysgol ym 1927,
ac mae wedi ei nodi fel 'Bt CYNTAF (1st Bt)'.
Diolch am unrhyw gymorth.
Gwen
|