Rwy'n gweld mai "Pobl Bwysig Iawn" sy yng Ngeiriadur yr Academi am "V.I.Ps"
ond rwy'n teimlo bod rhywbeth yn ddilornus am "Bobl Bwysig Iawn"
a "Pwysigion" yn y Gymraeg - am resymau diwylliannol, cymhleth mae'n siwr.
Roeddwn i wedi meddwl dweud "Cinio i Wahoddedigion" ond mae'n rhan o
achlysur lle mae llawer o bobl yn cael gwahoddiad i arddangosfa ond ychydig
yn cael mynd i'r cinio.
Unrhyw syniadau?
|