Dw i'n gweithio ar brosiect o'r enw Casglu'r Tlysau - prosiect sydd
wrthi'n creu gwefan a fydd yn cynnwys hanes diwylliannol Cymru.
Gwneir hyn drwy ddigido deunydd a gedwir mewn llyfrgelloedd,
amgueddfeydd ac archifau ledled Cymru. Tybed a oes rhywun yn
gwybod am eiriaduron termau sy'n berthnasol i'r maes hwn. Mae
gennyf gopi o Eiriadur Termau Archeoleg - a oes geiriaduron
termau eraill yn bodoli a fydd o gymorth imi wrth gyfieithu
agweddau eraill yn y maes hwn.
Diolch o flaen llaw am unrhyw gymorth,
Lowri
|