Fe fum innau'n chwilio am derm Cymraeg am hwn yn ddiweddar. Yn ol a
ddeallaf, nid yw'n cyfeirio at arian yn unig, ond hefyd at nwyddau, i'w
prynu/gwerthu ar ddyddiad yn y dyfodol i'w gytuno. Gall hyn fod am sawl
rheswm - cnwd heb fod yn barod, rhywbeth sy'n cael ei allforio a heb
gyrraedd, neu mo'i angen eto. Rhago taro bargen rwan, a wynebu o bosib
golli allan yn y dyfodol am nifer o resymau, megis newid yng ngwerth
arian/cyfraddau llog yn y cyfamser, mae'r naill ochr a'r llall yn ceisio
darogan pris teg (neu fanteisiol iddynt hwy), pan fydd yr arian yn cyfnewid
dwylo. Y ddawn yw medru rhagweld beth fydd gwerth yr hyn sy'n cyfnewid
dwylo.
Fe wnes i ddefnyddio cytundeb gwarchod, ar y sail fod y naill ochr a'r
llall yn ceisio gwarchod eu buddiannau eu hunain . Dwn im beth yw barn
pawb arall am hyn?
Meinir
Llinell Gyswllt
<[log in to unmask] To: [log in to unmask]
.UK> cc:
Sent by: Discussion of Subject: Hedging Contract
Welsh language technical
terminology and vocabulary
<WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM
AIL.AC.UK>
03/05/2002 13:38
Please respond to
Discussion of Welsh
language technical
terminology and vocabulary
Term technolegol yn sôn am brynu arian tramor.
Unrhyw syniad am gyfieithiad?
Bwriedir y trosglwyddiad post electronig hwn ar gyfer y derbynyddion a enwir
yn unig. Fe all gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os ydych
wedi ei dderbyn trwy gamgymeriad ni ddylech gyflawni unrhyw weithred yn
seiliedig arno, na'i gopio na'i ddangos i unrhyw un; ffoniwch ni ar unwaith os
gwelwch yn dda a dychwelyd y gwreiddiol i ni. Nid ydym yn derbyn unrhyw
atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw feirws
meddalwedd. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriad feirws fel y bo'r angen
cyn agor unrhyw atodiad a allai fod ynghlwm i'r neges hon.
This electronic mail transmission is intended for the named recipients only.
It may contain private and confidential information. If this has come to you
in error you must take no action based upon it, nor must you copy it or show
it to anyone; please telephone us immediately and return the original to
us. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a
result of software viruses. It is your responsibility to carry out such virus
checking as is necessary before opening any attachment which may be
included with this message.
|