Mae'r Termiadur yn dilyn Geiriadur Prifysgol Cymru a llawlyfr Orgraff yr
Iaith Gymraeg (1987, Bwrdd Gwybodau Celtaidd) fel y safon a'r awdurdod ar
faterion orgraff.
Yn ôl canllawiau Orgraff yr Iaith Gymraeg (gweler hefyd Gramadeg y Gymraeg
gan Peter Wynn Thomas, IV 40...) nid oes angen acen grom ar eiriau unsill
yn gorffen gyda 'd'; cymharer 'bod', 'dod', 'clod'.
Mae Peter Wynn Thomas yn dweud yn adran IV 39:
'Ffurf arall a welir yn helaeth er nad oes angen acen ar y llafariad, yw
côd.'
Mae yna duedd y dyddiau hyn i weld acen grom ar BÔB MÂTH o lafariaid HÎR;
er enghraifft mae mapiau Arolwg Ordnans yn FRÎTH o'r enwau CÔCH a GLÂS.
Prys
Dafydd Roberts wrote:
>
> Oes to bach ar cod => code (fel post code, ASCII code, etc.) ?
>
> Termiadur - nagoes
> GA - nagoes
> GPC - nagoes
> CySill - oes
> Cydweithwyr (2 hyd yma!) - oes
>
> Diolch am unrhyw sylwadau.
>
> Dafydd
>
> [log in to unmask]
--
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|