Rwyf newydd chwilio ar y we am enghreifftiau o gyfieithiadau o deitl NICE a
dyma'r cynigion sydd yno:
Dogfen gan yr NHS: y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol
Y Cynulliad: y Sefydliad Cenedlaethol er Rhagoriaeth Glinigol
Arthritis Care: y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Glinigol
Dogfen gan ymddiriedolaeth iechyd ym Morgannwg (?): Sefydliad Cenedlaethol
Rhagoriaeth Glinigol
Yr ail a'r olaf sy'n apelio fwyaf ata i.
Y cyfieithiad lleiaf derbyniol, am wn i, fyddai 'y Sefydliad Cenedlaethol ar
Ragoriaeth Glinigol' gan nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr. (Nid bod synnwyr
bob amser yn berthnasol!)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "John Puw" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, April 09, 2002 8:56 AM
Subject: Re: NICE
Cawsom ein cynghori yma i ddefnyddio 'Sefydlaid Cenedlaethol ar Ragoriaeth
Glinigol' beth amser yn ôl.
-----Original Message-----
From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 08 April 2002 16:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: NICE
Efallai y byddai 'y Sefydliad Cenedlaethol er Rhagoriaeth Glinigol' yn well
byth am ei fod yn dilyn patrwm 'y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau'
ac amryw o deitlau tebyg.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 08, 2002 3:47 PM
Subject: Re: NICE
> Mae un rhestr termau sydd gen i'n rhoi "Y Sefydliad Rhagoriaeth Glinigol
> Genedlaethol" ond all hynny ddim bod yn iawn, na fedr? Pam treiglo
> "Cenedlaethol"? Fase "y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol"
> ddim yn well?
>
> Diolch i bawb am eu cymorth y bore 'ma.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: Melanie Davies <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, April 08, 2002 1:10 PM
> Subject: NICE
>
>
> > A oes unrhyw un wedi clywed am derm Cymraeg ar gyfer y National
Institute
> > for Clinical Excellence (neu NICE)?
> >
> > Diolch am bob cymorth.
> >
> > Melanie Davies
>
|