Ond gofynnwch i 100 o bobl droi'r frawddeg yna i'r Saesneg a fyddai'r un
ohonyn nhw yn defnyddio'r gair 'negotiation'. 'Agreement' fyddai pawb, am wn
i, yn ei gynnig am 'cytundeb'.
Mae gen i ddigon o Saesneg i ddweud "there was no agreement" pe bawn i'n
dymuno, ond "the negotiations have failed" oedd gen i, ac mae fy mwriad wedi
mynd ar goll yn yr addasiad Cymraeg.
----- Original Message -----
From: "John Puw" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 25, 2002 8:26 AM
Subject: Re: Joint Negotiating Committee
> Os nad oes tri gair gyda chi, sut byddech chi'n cyfieithu "Despite genuine
> attempts at bargaining and discussion, the negotiations have failed"?
> "Er yr ymdrechion gwirioneddol i fargeinio a thrafod, ni chafwyd
cytundeb"?
>
|