O ran diddordeb, mae CySill yn cynnwys negodi ond nid negydu.
Ac os ga'i inna' roi fy mhig i mewn yn y ddadl, fe fyddwn innau'n ffafrio
rhywbeth mwy penodol am 'negotiating' yn y cyd-destun yma - mae trafod yn
rhy annelwig neu benagored. Fodd bynnag, fyddai gen i ddim gwrthwynebiad
i Trafod Telerau (neu negodi wrth gwrs).
Meinir
John D Williams
<[log in to unmask] To: [log in to unmask]
AM.SCH.UK> cc:
Sent by: Discussion of Welsh Subject: Joint Negotiating Committee
language technical terminology and
vocabulary
<[log in to unmask]
K>
24/04/2002 11:28
Please respond to Discussion of
Welsh language technical
terminology and vocabulary
Gwelaf nad yw 'negydu' yn Y Termiadur Ysgol nag yn GYA chwaith.
Mae 'negodi' yn y Geiriadur Termau o 1973 - gwaith rhyfeddol nid oes
ddwywaith, ac rwy'n siwr fod 'negydu' yn llyfrau termau CBAC
Astudiaethau Busnes ac Economeg nad ydynt gennyf erbyn hyn. Teimlas fod
Y Termiadur Ysgol a GYA rhyngddynt yn siwr o fod yn llawer gwell.
Tebyd o ble daeth.
O blaid 'negydu' mae'r ffaith mai un gair ydyw sy'n cyfleu, ys dywedodd
Tim, ystyr y Saesneg.
Serch hynny dwi'n teimlo fod 'negodi' a 'negydu' fel ei gilydd yn swnio
braidd yn artiffisial a bod angen rhywbeth naturiol. Yn y cyd-destun
hwn, ydyn ni'n gwybod beth yw gwrthrych y trafodaethau?
Bryd hynny o bosibl y gellid creu term i'w gyfleu yn agosach - ar y
patrwm trafod telerau etc.
John.
Bwriedir y trosglwyddiad post electronig hwn ar gyfer y derbynyddion a enwir
yn unig. Fe all gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os ydych
wedi ei dderbyn trwy gamgymeriad ni ddylech gyflawni unrhyw weithred yn
seiliedig arno, na'i gopio na'i ddangos i unrhyw un; ffoniwch ni ar unwaith os
gwelwch yn dda a dychwelyd y gwreiddiol i ni. Nid ydym yn derbyn unrhyw
atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw feirws
meddalwedd. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriad feirws fel y bo'r angen
cyn agor unrhyw atodiad a allai fod ynghlwm i'r neges hon.
This electronic mail transmission is intended for the named recipients only.
It may contain private and confidential information. If this has come to you
in error you must take no action based upon it, nor must you copy it or show
it to anyone; please telephone us immediately and return the original to
us. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a
result of software viruses. It is your responsibility to carry out such virus
checking as is necessary before opening any attachment which may be
included with this message.
|