>A wnaiff rhyw
>ramadegydd caredig egluro i mi pam fod Geiriadur Prifysgol Cymru yn
>hoi - bon y ferf, cynhaliaf: cynnal +- iadwy am cynaliadwy ond yn
>cynnig am cynaliedig, cynaledig - bon y ferf, cynhaliaf: cynnal +-
>(i)edig.
Geiriadur disgrifiadol yw GPC - yn ceisio cofnodi'r hyn sy'n digwydd yn yr
iaith.
Yn 1957, pan gyhoeddwyd yr erthyglau ar y geiriau _cynaliadwy_ a
_cynaliedig_, nid oedd gan y staff enghraifft o'r ffurf _cynaladwy_. Yr
**oedd** ganddynt enghreifftiau o'r ffurfiau _cynalieig_ a _cynaledig_.
Dyna paham mae'r ddwy erthygl yn wahanol. Pan adolygir y gwaith, fe
gynhwysir y ff. _cynaladwy_ - oherwydd bod gennym enghreifftiau ohoni - gan
gynnwys un o Eiriadur Walters ar ddiwedd y 18g. na wyddai staff 1957 amdani.
>Pam na chaf y dewis felly o ddweud cynaladwy.
Rhwydd hynt ichi wneud, o ran GPC. Fel y dywedwyd o'r blaen, ceisio
cofnodi'r hyn sy'n digwydd yn yr iaith mae hwnnw. Ond cofiwch fod
_cynaliadwy_ yn hy^n ac yn fwy cyffredin na _cynaladwy_.
Ffigurau Google: c/gynaladwy 771; c/gynaliadwy 2030.
>a fu newid arfer/ amrywiaethau rhyw dro?
Do, mae'n amlwg. Tua diwedd y 18g.
Gareth
|