Yn y Cywiriadur Cymraeg, Morgan D. Jones, tud. 103m, ceir cynnal,
cynhaliaf, cynhaliaeth, cynhelir.
Dywed J. Elwyn Hughes yn Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu, tud. 41
"Cynnal
a) Mae'r n ddwbl (-nn-) yn y berfenw yn diflannu ym mhob un o'r
ffurfiau berfol OND y mae h yn cymryd lle'r ail n yn y rhan fwyaf o'r
ffurfiau, ac y mae i yn rhan o'r terfyniad:
e.e. cynhaliaf; cynhaliwn; cynhaliant, cynhaliai; cynhaliodd,
cynhaliwyd
b) Bydd e yn cymryd lle'r a yn yr ail sillaf mewn rhai ffurfiau:
e.e. cynheliais; cynhelir
c) Yn y ffurfiau sy'n cynnwys -as- yn y terfyniad, sillefir y geiriau
gydag un n, a heb yr h:
e.e. cynaliasom, cynaliasai"
Fe'm dysgwyd innau, gan sawl athro, fod yr i ym mon y ferf yn aros yn
ffurfiau berfol. Efallai mai'r rheswm pam mae cynhaliwyd yn swnio'n
chwithig yw ei fod yn un o'r ansoddeiriau berfol rydym wedi gorfod eu
bathu wrth i gyfieithu ddod yn angenrheidiol.
John.
|