I mi, ystyr 'canfod' yw 'to perceive'. Gall olygu 'to find' yn yr ystyr
haniaethol, ond byddai'n gliriach gallu gwahaniaethu rhwng 'to find' (=
darganfod) a 'to perceive' (= canfod) wrth gyfieithu. Yng Ngeiriadur
Prifysgol Cymru, rhestrir y cyfystyron: 'gweled, amgyffred, dirnad, deall;
darganfod, gweled peth a fo ynghudd neu'n aneglur: to see, behold, perceive;
discover, discern, detect'. Er bod 'darganfod' wedi'i restru fel gair
cyfystyr Cymraeg, mae'n ddiddorol gweld na restrir 'to find' yn y cyfystyron
Saesneg.
Pan fydda i'n clywed so^n ar y newyddion fod yr heddlu wedi 'canfod' corff,
bydda i'n dychmygu rhyw ysbrydegwr neu ysbrydegwraig yn arwain plismyn at
gorff ...
Wrth gwrs, gall 'dod o hyd i' a 'cael hyd i' fod llawn cystal a^
'darganfod'.
Ffyrdd arall o gyfieithu 'to find' sydd heb gael eu cynnwys yng Ngeiriadur
yr Academi, hyd y gwn i, yw:
1. to find - teimlo, cael gafael ar
2. ... is found - ceir, (mae ... i'w (g)weld)
3. you may f. that - mae'n bosibl bod, cofiwch fod
4. I f. it easy to believe - mae'n hawdd gennyf gredu
5. to f. out about - ceisio/darganfod gwybodaeth am,, dod o hyd i wybodaeth
am
6. to f. favour with - apelio at
7. the survey found that - dangosodd yr arolwg fod/mai
8. to f. their feet - ymsefydlu('n gadarn)
9. to be found - (bod) i'w cael
10.to f. fame - dod yn enwog
11.they will f. it useful to - bydd yn ddefnyddiol iddynt, fe'i cânt yn
ddefnyddiol; iddynt hwy, bydd yn ddefnyddiol ...
12. they f. it useful to ... - yn eu profiad hwy, mae'n fuddiol/fanteisiol
...
13. they f. little difficulty in ... - ni chânt fawr o anhawster wrth ...
14. please f. enclosed - amgaeaf/amgaeawn/amgaeir
15. I hope you f. these papers of interest - gobeithio y bydd y papurau hyn
o ddiddordeb i chi
16. to f. out about ... - i gael gwybod(aeth) am/ynghylch/yngly^n â/ag
17. phone to f. out - ffoniwch i holi/ofyn, cewch yr ateb drwy ffonio, cewch
wybod drwy ffonio/os ffoniwch, codwch y ffôn i holi/ofyn
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 18, 2002 12:44 PM
Subject: find and replace
> "canfod ac amnewid" sy'n cael ei ddefnyddio gan Netscape Composer.
>
> -----Original Message-----
> From: D.Roberts [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 18 April 2002 11:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: find and replace
>
>
> Helo,
>
> Beth yw'r cyfieithiad gorau am
>
> find and replace?
>
> awgrymiadau:
>
> darganfod ac amnewid
> canfod ac amnewid
> ffendio a newid
>
> Mae'r trydydd un yn fwy bachog ac yn fwy tebyg o gael ei ddefnyddio ar
> lafar fe dybiwn.
>
> Diolch,
>
> Dafydd
>
|