Fel un na ddysgodd reolau gramadeg erioed, heb son am eu cofio nawr fy
mod i'n hen ac yn mynd yn ddotus, rwyf mewn penbleth. A wnaiff rhyw
ramadegydd caredig egluro i mi pam fod Geiriadur Prifysgol Cymru yn
hoi - bon y ferf, cynhaliaf: cynnal +- iadwy am cynaliadwy ond yn
cynnig am cynaliedig, cynaledig - bon y ferf, cynhaliaf: cynnal +-
(i)edig. Pam na chaf y dewis felly o ddweud cynaladwy. Nid mympwy
unigolyn yn unig sy'n gwneud i mi ofyn ac ni fyddwn yn meiddio anghytuno
a Geiriadur y Brifysgol na'r Academi chwaith ond mae nifer o bobl ffordd
hyn - pobl ddigon parchus, mwy nag un ohonynt gyda gradd dosbarth
cyntaf, yn gyfieithwyr o fri ac yn y blaen.... a rydym i gyd tua'r un
oed - sef tua'r hanner cant drosodd - ac o wahanol ardaloedd yng
Nghymru - Maldwyn, Meirionnydd, Arfon - yn dweud fod y gair cynaliadwy
yn swnio'n chwithig i'n clustiau ni. A gawsom fagwraeth wael? Oes nam ar
ein clyw, neu a fu newid arfer/ amrywiaethau rhyw dro? Helpwch fi,
rhywun - mae'r mater yn fy ngyrru yn wirion achos mae'n codi ym mhopeth
y dyddiau hyn. Efallai mai dyna'r broblem - heb arfer hefo'r cysyniad
mae fy nghenhedlaeth i - wedi'r cwbl ni ddyfeisiodd y clwt
tafladwy....Diolch o flaen llaw. Magi
|