Mae'n amlwg fy mod mewn hwyliau i anfon negeseuon 'gweinyddol' at y cylch
trafod heddiw!
Dyma un arall i atgoffa cyfranwyr o rai'r canllawiau sydd ar
http://www.jiscmail.ac.uk/files/WELSH-TERMAU-CYMRAEG/Croeso_a_chanllawiau.htm
PENNAWD Y NEGES
Pan fyddwch yn holi am derm rhowch y term fel pennawd y neges.
GWYBODAETH AM DERM
Wrth holi am derm arbennig mae'n fuddiol cynnwys cymaint o wybodaeth ag
sydd gennych, megis:
1.beth yw’r term, gan gynnwys gwahanol rannau ymadrodd perthnasol;
2.beth yw’r maes neu’r parth (gwyddoniaeth, cyfreithiol, beirniadaeth
lenyddol, gweinyddu... );
3.brawddegau neu ymadroddion enghreifftiol;
4.beth yw’r diffiniadau sydd mewn geiriaduron Saesneg;
5.beth yw’r cynigion sydd ar gael mewn geiriaduron neu ddogfennau
Cymraeg;
6.unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â’r awgrymiadau.
--
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|