Y cof sy gen i o'r gwahanol gyrsiau hyfforddi a wnes i yn y gwasanaeth
sifil o dan y teitl 'negotiation' yw bod 'discussions' a 'bargaining' yn
gallu bod yn rhannau o broses negodi neu'n agweddau arni. Efallai y
byddai'n ddoeth felly i ni gael geiriau i gyfateb i'r tri hyn, ac nid
ceisio cael un gair Cymraeg ar gyfer tri chysyniad gwahanol.
Os nad oes tri gair gyda chi, sut byddech chi'n cyfieithu "Despite genuine
attempts at bargaining and discussion, the negotiations have failed"?
Olreit, fe fydd 'bargeinio' neu 'trafod' a 'cyd-drafod' yn addas yn aml,
ond yng nghyd-destun cysylltiadau diwydiannol (er enghraifft) mae'n bwysig -
ac yn braf - defnyddio'r termau cywir.
|