Hefin Jones ar Munud i Feddwl y bore 'ma'n dweud iddo fynd i gaffi yn
Llambed a gofyn am "frechdan gaws ac ysgytlaeth mefus" a'r ferch wrth y
cownter yn dweud nad oedd yn deall achos mai "half and half y'n ni yn
Llambed."
Sy'n fy atgoffa o ddigwyddiad pan oedd fy mam yn athrawes plant bach.
Bachgen bach yn dechrau'r ysgol a hithau'n methu cael gair o'i geg trwy'r
dydd - dim Cymraeg, dim Saesneg. Gofyn i'r fam pan ddaeth i'w nol "Pa iaith
y'ch chi'n siarad ag e?" "O, half and half" oedd yr ateb.
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 24, 2002 10:37 AM
Subject: Joint Negotiating Committee
> Mae'r ymadrodd 'pobl "half and half" Llambed' yn gwbl ddiarth i mi. All
> rhywun fy ngoleuo?
|