Ar o+AF4-l darllen eglurhad David (Bullock) dro'n o+AF4-l, anfonais e-bost at yr
Athro Peter Wynn Thomas i geisio'i farn am hyn. Rwy'n dal i ddisgwyl ateb, a
chaiff w-t-c wybod cyn gynted ag y daw ei ymateb.
Clywais ddau yn trafod 'datblygu cynaladwy' yn ddigon hapus ar y radio y
bore 'ma.
Berwyn
----- Original Message -----
From: +ACI-teulu lewis+ACI- +ADw-m.e.lewis+AEA-BTCONNECT.COM+AD4-
To: +ADw-WELSH-TERMAU-CYMRAEG+AEA-JISCMAIL.AC.UK+AD4-
Sent: Monday, April 15, 2002 10:18 PM
Subject: cynaliadwy / cynaladwy
+AD4- Fel un na ddysgodd reolau gramadeg erioed, heb son am eu cofio nawr fy
+AD4- mod i'n hen ac yn mynd yn ddotus, rwyf mewn penbleth. A wnaiff rhyw
+AD4- ramadegydd caredig egluro i mi pam fod Geiriadur Prifysgol Cymru yn
+AD4- hoi - bon y ferf, cynhaliaf: cynnal +- iadwy am cynaliadwy ond yn
+AD4- cynnig am cynaliedig, cynaledig - bon y ferf, cynhaliaf: cynnal +-
+AD4- (i)edig. Pam na chaf y dewis felly o ddweud cynaladwy. Nid mympwy
+AD4- unigolyn yn unig sy'n gwneud i mi ofyn ac ni fyddwn yn meiddio anghytuno
+AD4- a Geiriadur y Brifysgol na'r Academi chwaith ond mae nifer o bobl ffordd
+AD4- hyn - pobl ddigon parchus, mwy nag un ohonynt gyda gradd dosbarth
+AD4- cyntaf, yn gyfieithwyr o fri ac yn y blaen.... a rydym i gyd tua'r un
+AD4- oed - sef tua'r hanner cant drosodd - ac o wahanol ardaloedd yng
+AD4- Nghymru - Maldwyn, Meirionnydd, Arfon - yn dweud fod y gair cynaliadwy
+AD4- yn swnio'n chwithig i'n clustiau ni. A gawsom fagwraeth wael? Oes nam ar
+AD4- ein clyw, neu a fu newid arfer/ amrywiaethau rhyw dro? Helpwch fi,
+AD4- rhywun - mae'r mater yn fy ngyrru yn wirion achos mae'n codi ym mhopeth
+AD4- y dyddiau hyn. Efallai mai dyna'r broblem - heb arfer hefo'r cysyniad
+AD4- mae fy nghenhedlaeth i - wedi'r cwbl ni ddyfeisiodd y clwt
+AD4- tafladwy....Diolch o flaen llaw. Magi
+AD4-
|