Yn y dyddiau pell yn o^l hynny pan oedd cyfieithu adroddiadau Arolygwyr Ei
Mawrhydi yn fara menyn beunyddiol (a blasus i mi, druan), byddwn i'n arfer
'arolwg' am 'survey' ac 'inspection' gan mai ystyr 'adolygiad', yn fy nhyb
i, oedd 'revision'. Gallai 'arolwg' (gan rai a oedd, yn o^l eu teitl, yn
'arolygwyr') arwain, felly, at 'adolygiad' o'r ffordd y ca^i ysgol ei
rhedeg - ond gwaith i'r staff a'r llywodraethwyr oedd yr adolygu.
Ond yr hyn yr hoffwn ei wybod, Prys, yw beth yw ystyr 'CChem' (Chief of
Chemistry?)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "davidbullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 18, 2002 2:30 PM
Subject: Re: Transparency Review
> Fe fu yna gyfnod pan oedd y gwasanaeth cyfieithu yn y Cynulliad yn ceisio
> cadw 'arolwg' i gyfleu 'survey', a defnyddio 'adolygiad' ar gyfer
'review':
> dyw hi ddim yn anodd dychmygu cyd-destun lle bydd angen gwahaniaethu.
> 'Tryloywder' oedd y gair - gan y Llywydd beth bynnag - am 'transparency'.
>
> O ran diddordeb, flynyddoedd yn ôl, pan fyddai adroddiadau Arolygwyr
> Ysgolion Ei Mawrhydi yn cael eu cyfieithu yn y Swyddfa Gymreig, roedd yr
> Arolygwyr Cymraeg yn ein hyfforddi i wahaniaethu rhwng 'arolwg/survey' a
> fyddai'n cymharu sawl ysgol â'i gilydd ac 'arolygiad/inspection' a
fyddai'n
> rhoi un ysgol unigol, (druan), dan y chwyddwydr.
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "J.P.M.Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, April 18, 2002 1:19 PM
> Subject: Re: Transparency Review
>
>
> > Mae'r ymadrodd 'arolwg eglurder' yn cael ei arfer yn gyson yn y
Brifysgol
> > ym Mangor mewn nifer o ddogfennau a ffurflenni, ac ar lafar.
> >
> > Prys
> >
> > --
> > ------------
> > J P M Jones MA PhD CChem FRSC
> > Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
> > Trefenai
> > Ffordd Caergybi
> > Bangor
> > Gwynedd
> > LL57 2PX
> >
> > tel +44 1248 382955/383013
> > ffacs +44 1248 383990
> >
>
|