On Mon, Apr 29, 2002 at 06:17:00PM +0100, Muiris Mag Ualghairg wrote:
> Beth am 'ymweliadau'. Os ydych yn cyfrif 'hits' i wefan , cyfrif nifer yr
> ymweliadau a wnaed yr ydych.
Wel dyna lle mae'r broblem yn dechrau. Ymweliadau yw 'visits' a mae
hwn wedi cael ei ddiffinio yn swyddogol gan nifer o grwpiau safoni fel
'a series of Page Impressions viewed by an User in one visit'
(fel arfer mae 'visit' yn golygu fod bwlch o 30 munud neu fwy rhwng
pori trwy'r wefan).
lle mae 'Page Impression' = 'a file or collection of files requested
by one User to draw a single web page'.
Mae 'hits' yn golygu gofyniad ar gyfer ffeil HTML, neu graffeg, neu
ffeil Javascript neu CSS neu ddogfen PDF neu unrhyw ofyniad arall drwy
brotocol HTTP. A dyna pam mae pobl yn hoff o son am 'hits' - mae'r
nifer o hits yn llawer uwch na'r nifer o 'ymweliadau'.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|