Awgrymiadau? Cynigion? Cynghorion?
Tim
-----Original Message-----
From: Gwen Evans [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Thursday, March 14, 2002 9:43 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: upset
Roedd yr hen bregethwyr ' o dan deimlad'
----- Original Message -----
From: Mair Edwards <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Thursday, March 14, 2002 9:29 AM
Subject: Re: upset
Heb ateb ddoe gan nad oeddwn wrth y cyfrifiadur.
Yn y cyd-destun mae'n debyg byddwn i'n cynnig bod siawns i'r dioddefwyr
gynhyrfu a/neu fod yn ddagreuol - ond ar lafar mi fyddwn innau'n deud
"ypsetio" ac hefyd yn dweud bod rhywun wedi "cymryd ato/ati".
Weithiau, mae'r diffyg geiriau ar gyfer rhai emosiynau yn broblem yn y
Gymraeg - testun ymchwil i rhywun i edrych ar sut mae iechyd meddwl ac
emosiynau wedi (ac yn cael) eu cyfleu a'u labelu yn ein llenyddiaeth?
Mair
Beth am y ferf? Dydi 'gofidio' ddim yn awgrymu 'ypsetio' i mi - a ddylid
defnyddio 'mynd yn ofidus'.
Mae'n rhaid imi gyfaddef nad ydwi'n gweld yr ystyr yn debyg i 'ypset'
chwaith. Mae'n awgrymu sbectrwm gwahanol o deimladau i mi.
Mair - unrhyw awgrymiadau o du seicoleg?!
Catrin
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 13, 2002 2:04 PM
Subject: Re: upset
Byddwn i'n tybio y byddai 'gofidus' yn iawn yn y cyd-destun hwnnw.
Berwyn
----- Original Message -----
From: catrin alun <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 13, 2002 1:33 PM
Subject: Re: upset
Dwi'n cyfieithu rhywbeth sy'n sôn am droseddwyr ifanc a'r dioddefwyr - mae'r
frawddeg yn dweud y gallai'r dioddefwr fynd yn 'ypset' yn y cyfarfod.
Rhywsut neu'i gilydd, does dim gair Cymraeg sy'n cyfateb i'r math yna o
'ypsetio' - mae'n debyg nad ydyn ni'n genedl sy'n gwneud petha felly!!
Catrin
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 13, 2002 12:37 PM
Subject: Re: upset
Beth yw'r cyd-destun? Ai ansoddair neu enw yw 'upset? A fyddai 'dig' neu
'crac' yn dderbyniol yn y cyd-destun sy gen ti?
Berwyn
----- Original Message -----
From: catrin alun <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 13, 2002 11:43 AM
Subject: upset
Oes rhywun yn gallu awgrymu gair sy'n trosglwyddo ystyr 'upset' yn iawn?
Ydy defnyddio 'ypset' yn dderbyniol dan rai amgylchiadau?
Catrin
|