Mi ges i'r ateb yma gan ffrind sy'n gweithio'n yr adran Seicoleg ym Mangor,
i'w hychwanegu at sylwadau Berwyn:
"Wel dw i'n gwbod bod Llinos a Mair wedi bod yn datblygu termiadur geirfa
seicoleg yn yr adran yn fama a bod Delyth Prys wedi bod yn helpu safoni'r
eirfa. Mae o bron yn barod os dw i'n iawn. Na i adael i ti wybod pryd fydd
o yn barod. Eniwe, dw i wedi clywed pobl yn cyfieithu "deep orthography" a
"shallow orthography" yn llythrennol (orgraff dwfn a bas) ond tydw i ddim yn
lecio hynny. Be
mae'r papur yn trio ei ddweud ydi bod system sillafu ac ysgrifennu yn y
Gymraeg yn "transparent" (h.y., efo rheolau amlwg a chlir -- e.e. os weli di
'c' ti'n gwneud y swn 'cy' bob tro) a bod y system yn Saesneg yn 'opaque"
(h.y., heb reolau clir -- e.e., os weli di 'c'
weithiau rhaid gwneud y swn 'cy' ac weithiau "si" fel 'cat' a 'cinema').
Felly, heb gymhlethu'r darllenydd, fyswn i'n fwy hoff o
weld "orgraff clir" ac "orgraff cymhleth" neu rhywbeth felly yn cael ei
ddefnyddio yn hytrach na "orgraff tryloyw" ac "Orgraff anrhyloyw" neu "fwll"
neu beth bynnag."
Non Gwenhwyfar Tudur
Cyfieithydd/Translator
Parc Cenedlaethol Eryri
Penrhyndeudraeth
Ffôn/Tel: 01766 772222
E-bost/mail: [log in to unmask]
> -----Original Message-----
> From: annes [SMTP:[log in to unmask]]
> Sent: Tuesday, March 12, 2002 12:46 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: transparent/opaque
>
> Cyd-destun: orgraff (transparent/opaque) a phlant yn dysgu darllen - papur
> seicoleg. Unrhyw gynigion? A thra dwi wrthi, oes yna dermau seicoleg ar
> gael? Diolch.
>
> Annes
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|