Ydw i am roi fy mhen ar y bloc yn y drafodaeth yma .?... mmm ...
Beth fyddai barn pobl Cymraeg Clir am y term 'Prif Weinyddes Nyrsio', ac o
ran hynny am 'Gweinyddes'? Onid ydy'r termau 'Nyrs' a 'Sister' wedi bod yn
rhan o Gymraeg llafar (graenus) ers digon o amser i gael eu derbyn i'r iaith
ysgrifenedig bellach? Amau rydw i bod y termau 'Gweinyddes' a 'Phrif
Weinyddes' yn gwneud i'r Gymraeg swnio'n ddieithr neu'n orfawreddog i'r rhan
fwyaf o Gymry Cymraeg yn y proffesiwn ...
Annwyl Brif Weinyddes Nyrsio,
Ydych chi'n gwybod pwy ydych chi?!
Mae'n rhaid i dermau fod o leiaf yn dderbyniol ar lafar cyn bod gobaith
iddynt ennill eu plwyf. Mae arna i ofn bod y frwydr wedi ei cholli efo'r
ddau derm hyn.
DOCTOR: Brif Weinyddes Nyrsio, sut mae Mr Jones y bore 'ma?
Go brin.
Gyda llaw - rydw i'n gwybod mai ailagor hen drafodaeth fydd hyn i Delyth a'i
thîm ym Mangor ac y bydd yr ystyriaethau hyn wedi eu trafod eisoes â
chynrychiolwyr byd nyrsio etc., ynghyd â phroblem FAWR beth i'w wneud pan
fo'r Sister yn ddyn. Ond peth byw yw iaith, ac mae'n dal i newid, felly
daliwn i drafod ...!
Glenys
ON Mi fydda i'n gorfod cyfieithu'r termau hyn mewn hysbysebion swyddi
weithiau ac rwy'n defnyddio 'Nyrs' a 'Sister' (a 'Prif Nyrs' am 'Charge
Nurse').
----- Original Message -----
From: Gwen Rice <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 13, 2002 8:54 AM
Subject: Re: sister
> Diolch i bawb sydd wedi ymateb. Efallai na wnes i egluro'n iawn, ond y
> cyd-destun yw 'Sister ... (+ enw)' ar amlen a 'Dear Sister ... (+ enw)' ar
> lythyr.
> Gwen
>
> -----Original Message-----
> From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 12 March 2002 20:30
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: sister
>
>
> Yn Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae Delyth yn rhoi 'prif weinyddes
> nyrsio'.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, March 12, 2002 5:05 PM
> Subject: sister
>
>
> > Mewn ysbyty. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig prif nyrs, nyrs hyn, ac
> (ar
> > lafar) sister. Fel teitl, ai 'Prif Nyrs (Jones, neu beth bynnag)' a
> > ddefnyddir wrth gyfeirio at y person. (Ac oes enw arall (yn y Saesneg)
am
> > ddyn sy'n gwneud y fath waith? Mae'r Gymraeg, wrth gwrs, yn ddiogel yn
hyn
> o
> > beth os anghofiwn ni am 'sister'.)
> > Diolch
> > Gwen
> >
|