Wel 'rhen Gwen - does gen i mond diolch i ti am y rhybudd gan fy mod yn
byw rhyw dafliad carreg o'r dywededig le ac yn cynadledda yno'n aml.
Bwyd bendigedig ond byddaf yn wyliadwrus tro nesaf os oes gorgimwch yn
agos i'r lle. Mae Eirlys Williams yn byw'n nes fyth - felly cymer ofal
Eirlys!
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 11, 2002 12:11
Subject: Re: tartare
> Na, mae'r corgimwch yn bendant yn amrwd - maen nhw wedi cadarnhau
hynny! A
> does dim saws tartare yno chwaith.
> Y cleient, gyda llaw, yw (Prifysgol Cymru) Gregynog.
> Gwen
>
> -----Original Message-----
> From: teulu lewis [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 11 March 2002 11:56
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: tartare
>
>
> Dwi'n fawr obeithio bod dy gleient wedi gwneud camgymeriad ac mai
> danteithion wedi'u gorchuddio hefo saws tartare yw'r bwyd dan sylw.
> Fallai bod yr eog wedi'i fygu ....ond y prawns? Pwy yn ei lawn reswm
> fyddai'n bwyta rheiny yn amrwd?
> ----- Original Message -----
> From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, March 11, 2002 10:34
> Subject: tartare
>
>
> Term sy'n ymwneud b bwyd. Diffiniad yr OED: '(of fish or meat) served
> raw,
> typically seasoned and shaped into small cakes'. Dyna yn union sydd
gen
> i
> ar y fwydlen o dan sylw, ond at bysgod yn union y cyfeirir.
>
> Mae Geiriadur yr Academi yn enwi 'saws tartar' a 'stecen dartar'. Dwi
> wedi
> holi, a does a wnelo'r eitem o dan sylw ddim i'w wneud b 'saws
tartar',
> a
> dwi ddim yn siwr allai 'stecen dartar' fod ar ffurf diffiniad yr OED
> beth
> bynnag. Ai 'tartar' fyddai'r term Cymraeg felly?
>
> 'Smoked salmon and prawn tartare' yw'r teitl sydd gen i.
>
> Unrhyw syniadau (neu oleuni)?
>
> Diolch
>
> Gwen
|