Cytuno'n llwyr na fuaswn i'n bwyta'r fath beth!
Dyw "amrwd" ddim yn ddigon da, mae'n debyg - rhy "amrwd" ac yn awgrymu'r
corgimychiaid bach marw yn gorwedd ar eich plat. Ond, 'roeddwn i'n meddwl
bod corgimychiaid fel arfer yn cael eu coginio'n fyw, felly gobeithio eu bod
nhw o leiaf wedi'u lladd? Tybed ai'r euog yn unig sy'n amrwd, a'r
corgimychiaid ond yn oer.
Es at "The Gourmet's Lexicon". "For Steak Tartare see Tartar Steak". Troi
at "Tartar Steak" - dim byd rhwng "Taramasalata" a "Tatin".
Er gwaethaf Geiriadur yr Academi, mae Bruce yn awgrymu tarta+r (h.y. to bach
ar yr ail "a"), neu ddefnyddio "tartare" mewn llythrennau eidaleg.
Stumog dda!
Ann
|