Dwi'n fawr obeithio bod dy gleient wedi gwneud camgymeriad ac mai
danteithion wedi'u gorchuddio hefo saws tartare yw'r bwyd dan sylw.
Fallai bod yr eog wedi'i fygu ....ond y prawns? Pwy yn ei lawn reswm
fyddai'n bwyta rheiny yn amrwd?
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 11, 2002 10:34
Subject: tartare
Term sy'n ymwneud b bwyd. Diffiniad yr OED: '(of fish or meat) served
raw,
typically seasoned and shaped into small cakes'. Dyna yn union sydd gen
i
ar y fwydlen o dan sylw, ond at bysgod yn union y cyfeirir.
Mae Geiriadur yr Academi yn enwi 'saws tartar' a 'stecen dartar'. Dwi
wedi
holi, a does a wnelo'r eitem o dan sylw ddim i'w wneud b 'saws tartar',
a
dwi ddim yn siwr allai 'stecen dartar' fod ar ffurf diffiniad yr OED
beth
bynnag. Ai 'tartar' fyddai'r term Cymraeg felly?
'Smoked salmon and prawn tartare' yw'r teitl sydd gen i.
Unrhyw syniadau (neu oleuni)?
Diolch
Gwen
|