Mae Geiriadur Prifysgol Cymru'n rhoi'r ddwy ffurf ynghyd ag Oes yr Efydd a'r
Oes Efydd am 'the Bronze Age'. Yn 'Hanes Cymru', mae John Davies yn
defnyddio 'Oes yr Haearn', ond yn Llyfr 1 'Yn y Dechreuad' gan Bob Morris a
Catrin Stevens, yn gyfres i ysgolion 'Darganfod Hanes Cymru', a gyhoeddwyd
gan Wasg Rhydychen ym 1991, 'yr Oes Haearn' yw'r ffurf a arferir. (Cofier
ein bod ni'n defnyddio 'yr Oesoedd Canol' ac 'y Canol Oesoedd' yn ddi-waha^n
heb weld dim o'i le ar hynny.)
A hollti blew, y broblem, mae'n debyg, yw bod y cwlwm geiriau 'oes' +
'efydd' braidd yn
anfoddhaol pa bynnag trefn a ddefnyddiwch chi. Dyw 'oes' ddim yn gallu bod
yn 'efydd' nac yn 'haearn' ac mae 'oes yr efydd' yn awgrymu mai 'oes efydd'
a dim un metel arall oedd hi. Am ryw reswm dyw 'the Bronze Age' ddim yn
codi'r un cwestiwn yn Saesneg.
Wedi dweud hynny, mae'n haws rhoi ansoddair ar o^l y ffurf 'yr Oes Efydd,
e.e 'yr
Oes Efydd Ganol' (gw. Geiriadur Termau Archaeoleg) na cheisio dweud 'Oes
Ganol yr Efydd', sy'n swnio braidd yn chwithig.
Serch hynny, wrth so^n am y 'Celtic Iron Age', byddwn i'n tueddu i gytuno ag
awgrym Eirlys a dweud 'Oes Haearn y Celtiaid' fel dewis cyntaf, 'yr Oes
Haearn Geltaidd' fel ail ddewis, ac osgoi defnyddio 'Oes Geltaidd yr Haearn'
yn gyfan gwbl.
Maddeuwch yr ymresymu trofaus!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, March 08, 2002 11:14 PM
Subject: Re: Celtic Iron Age
> Rwy'n gweld erbyn hyn bod "Geiriadur yr Academi" a "Hanes Cymru" yn
> defnyddio "Oes yr Haearn" ond y Cwricwlwm Cenedlaethol a "Geiriadur Termau
> Archaeoleg" yn dweud "yr Oes Haearn".
> A ellir defnyddio'r naill neu'r llall?
> Sian
>
|