Diolch Delyth, Sia^n a phawb arall am eich sylwadau ac amen i bopeth.
I minnau hefyd, mae "trawsnewid(iol)" yn awgrymu newid llwyr neu drawiadol.
Roeddwn i'n meddwl bod yr ystyr yn gymharol eglur yn y cyd-destun - methu a^
dod ar draws unrhyw derm cydnabyddedig, neu safonol, neu gyson oeddwn i.
Yng nghyd-destun y ddogfen dwi'n ei chyfieithu, dwi'n credu mai "cynllun
pontio" sy'n cyfleu'r ystyr cywir (fel yr ydw i'n ei deall hi!), er nad
oeddwn i wedi dod ar draws yr ymadrodd yn y cyd-destun yma o'r blaen.
Mae hi mor anodd plesio pawb yn tydi - cysonder (ac ufudd-dod i orchymyn y
cleient?)
ar y naill law, a'r union ystyr ar y llall! Byddwn yn ceisio rhoi
blaenoriaeth i'r ystyr - ond weithiau er gwaethaf pob ymdrech ....
Dwi'n meddwl bod syniad Delyth, sef ychwanegu rhwng cromfachau ar ôl
"cynllun pontio" y cyfieithiad y mae amheuaeth yn ei gylch (y tro cyntaf) yn
gwneud synnwyr - dwi wedi gwneud hynny o'r blaen.
Mi ydw i hefyd wedi dod ar draws dogfennau'n ymwneud a^ newid meini prawf
nawdd Ewropeaidd, ar gyfer ariannu prosiectau Amcan 2. Roedd y ddogfen
honno'n mynnu mai Rhaglen Drawsnewidiol oedd y cyfieithiad am Transitional
Programme. Dwi'n cyfaddef na wn i ryw lawer am y maes, ond mae gen i
amheuaeth yngly^n a^ "thrawsnewidiol" yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Be' ydi'r
consensws?
Eirlys
|