"dewch â rhywbeth i brofi pwy ydych chi" ?
"dewch â rhywbeth i brofi pwy'r ydych" ??
Wyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 07 March 2002 13:12
Subject: identity ac ati
> Mi wnaeth ParcelForce drio ddosbarthu (oes gair mwy synhwyrol am
> 'deliver'?) parsel i mi ond 'doedd neb i fewn. Felly fe adawodd y
> gyrrwr gerdyn dwy-ieithiog (chwarae teg) yn dweud "Mae'n ddrwg gennym
> eich colli chi..." (We're sorry to miss you?).
>
> Yn ffodus fe adawyd y parsel yn y ty drws nesaf ond mi es ymlaen i
> ddarllen y cerdyn, oedd yn sôn am gasglu'r parsel o'r depo.
>
> "Caniatewch un dirwrnod ar ôl derbyn y cerdyn hwn cyn dod i gasglu os
> gwelwch yn dda, a dewch â'r cerdyn a pharwf o'ch hunaniaeth gyda chi"
> (sic)
>
> Beth fyddai'r cyfieithiad gorau am proof of identity? "prawf o bwy
> ydych chi"? Dwi'n gwybod mai 'cerdyn adnabod' yw 'identity card'.
>
> Ar ochr arall y garden mae yna fap er mwyn dangos y ffordd i'r 'depo',
> gyda'r teitl "Sut i dodd o hyd i ni"
>
> --
> Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
'Mae'r wybodaeth yn y neges hon yn gyfrinachol a dichon mai ychydig iawn o bobl sydd â hawl iddi. Bwriedir hi ar gyfer neb ond y sawl y cyfeirir hi ato/ati. Os nad chi yw'r derbynnydd bwriedig, gofynnir ichi beidio â'i darllen na'i phrintio na'i hail-anfon, na'i storio na gweithredu yn ei chylch neu ynghylch unrhyw atodiadau iddi. Yn hytrach, hysbyswch yr anfonydd os gwelwch yn dda, gan ddileu'r neges o'ch system yn syth.
Dalier sylw nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy na'r anfonydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am feirws, a'ch cyfrifoldeb chi yw sganio'r atodiadau (os oes rhai).
Information in this message is confidential and may be privileged. It is intended solely for the person to whom it is addressed. If you are not the intended recipient please do not read, print, re-transmit, store or act in reliance on it or any attachments. Instead, please notify the sender and delete the message from your system immediately.
Please note that neither Conwy County Borough Council nor the sender accepts any responsibility for viruses and it is your responsibility to scan attachments (if any).'
|