Ysgrifennodd Ann Corkett:
> >Beth fyddai'r cyfieithiad gorau am proof of identity? "prawf o bwy
> >ydych chi"?
> Oni fyddai "prawf o'ch enw" yn ddigon, h.y. prawf mai chi yw'r un a enwir?
Siwr o fod. 'Dwi am yrru neges at ParcelForce i gywiro'r cyfieithiad
ar y cerdyn.
> >ddosbarthu (oes gair mwy synhwyrol am
> >'deliver'?) parsel
>
> Y gair cywir am "deliver" yw "danfon", a "delivery" yw "danfoniad".
Diolch am y wybodaeth yma. Y cwestiwn sy'n codi o hyn yw - o le daeth y
gair anfoneb ac ydi e'n fathiad diweddar. Os ydw i'n cael 'delivery
invoice' a fyddai hynny yn 'anfoneb danfoniad'.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|