Bobl bach mae 'na rai ohonom yn groendenau. Ac nid cyd-ddigwyddiad oedd y
cwestiwn 'flame' yn cael ai anfon saith munud wedi 'hearing getting worse',
rhag ofn bod ambell un yn dal i gredu taw chwilio am gyfieithiad oedd JPM
Jones.
Rwy'n defnyddio'r fforwm yn achlysurol ond mae'n rhaid i mi gyfaddef i regi
pan fydd llwyth o negeseuon dibwys yn glanio yn yr "inbox". Rwyf yn gwybod
bod cyfieithu ar eich liwt eich hun yn gallu bod yn waith unig, a bod angen
lle i wyntyllu barn ac ati. Ond mae gwell mannau i ffraeo neu anfon
negeseuon preifat na defnyddio wyneb cyhoeddus rhyngwladol y proffesiwn yma
yng Nghymru.
Y prif reswm dros adael y fforwm ydi gormod o wag-drafod, yn ôl pobl ydw i
wedi eu holi. Mae'r llwyth cynyddol o e-byst yn beryg o ddifetha'r hyn sy'n
wasanaeth hanfodol bwysig ar gyfer cysondeb, ac weithiau iechyd meddwl
cyfieithwyr unig.
Ydi hi'n rhy hwyr i adfer yr hyn oedd yn digwydd ar y dechrau (a hyd yn
ddiweddar, yn ôl yr archifau), a chadw'r holl beth ar gyfer cwestiynau ac
atebion neu ar gyfer gwybodaeth sydd o ddefnydd i bawb, megis safweoedd
defnyddiol ac ati.
Os ydych angen rhif ffôn nain hwn a hwn, anghytuno mewn ffordd atgas neu
ymateb hefo rhyw sylw dibwys (digri neu beidio), yna defnyddier ffynhonnell
nad yw'n amharu ar "inbox" tua 130 o drueiniaid nad oes ganddynt unrhyw
ddiddordeb yn eich cyfraniad.
Gan ymddiheuro am amharu ar eich "inboxes" gyda neges 'amherthnasol' arall,
a thyngu na fyddaf yn gwneud hynny eto,
Yn gywir
John Puw
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 05, 2002 3:00 PM
Subject: hearing getting worse
> Yn gyntaf, pan ddywedais fy mod wedi ymgynghori â'r Adran Gymraeg, dim
> ond ag un aelod bûm i'n siarad. Dyw gweddill yr Adran yn gwybod dim am
> y trafod.
> Yn ail, dwi ddim yn cynrychioli barn yr Adran na barn yr ysgol. Dwi'n
> gwbl annibynnol ond yn digwydd bod yn gweithio o'r ysgol.
> Yn olaf, dwi ddim yn gweld bod angen i dôn eich e-bost ddiweddaraf fod
> mor annifyr.
> Os yw'r rheolau a ddyfynnwyd gennych yn gywir, maen nhw'n dal i swnio yn
> od i rai pobl. Roeddwn i dal yr argraff mai helpu ein gilydd oedd
> pwrpas y cylch trafod a bod dadansoddi cystrawen wrth fodd pawb sy'n
> gweithio yn y maes.
> John.
>
|