Yn gyntaf, pan ddywedais fy mod wedi ymgynghori â'r Adran Gymraeg, dim
ond ag un aelod bûm i'n siarad. Dyw gweddill yr Adran yn gwybod dim am
y trafod.
Yn ail, dwi ddim yn cynrychioli barn yr Adran na barn yr ysgol. Dwi'n
gwbl annibynnol ond yn digwydd bod yn gweithio o'r ysgol.
Yn olaf, dwi ddim yn gweld bod angen i dôn eich e-bost ddiweddaraf fod
mor annifyr.
Os yw'r rheolau a ddyfynnwyd gennych yn gywir, maen nhw'n dal i swnio yn
od i rai pobl. Roeddwn i dal yr argraff mai helpu ein gilydd oedd
pwrpas y cylch trafod a bod dadansoddi cystrawen wrth fodd pawb sy'n
gweithio yn y maes.
John.
|