Ynghylch "ysgol llawn o blant", "pobl trwm eu clyw" : yr wyf wedi ceisio
barn fy nghyfaill D. Glyn Jones, cyd-olygydd Geiriadur yr Academi, a
gramadegydd Cymraeg cymwys. Cytunodd ef a+ mi: mae'r ffurfiau uchod yn
*hollol anghywir * ac *yn hollol annerbyniol *. Mae'r rheol yn syml: ar
o+l enw benywaidd unigol fe dreiglir *pob ansoddair treigladwy *, felly
"ysgol lawn plant" neu "ysgol lawn o blant" a "pobl drwm eu clyw" sy'n
gywir. A dyfynnu ei eiriau ef "haerllugrwydd yw honni unrhyw beth arall".
Nid yw'r ffaith bod "pobl" yn cyfeirio at nifer o unigolion yn newid y
ffaith mai enw benywaidd unigol yw, fel y mae "cenedl", "gwlad", "tyrfa",
"llynges" ayb. (sylwer, er hynny, y dywedir pobl wynion, pobl dduon).
Rhag fy mod yn gorfod gwastraffu f'amser yn egluro rheolau syml gramadeg
ddwywaith, awgrymaf y dylai staff Cymraeg Ysgol Morgan Llwyd fuddsoddi mewn
copi o lyfr gramadeg a dysgu'r rheolau, e.e. llyfr gramadeg Stephen J.
Williams.
Bruce
|