Diolch i gymorth Huw John Hughes a Twm Elias, rwy wedi cael cadarnhad bod yr
elfen "Glas" yn iawn. Mae'r Brown Argus yn perthyn i deulu'r Gleision,
mae'n debyg. Roedden nhw ill dau yn argymell "Gwrmyn Glas". Diolch am bob
help.
Sian
----- Original Message -----
From: "catrin alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 27, 2002 11:22 AM
Subject: Re: Brown Argus
> Mae glas a gwyrdd yn gyfystyr yn aml - mae gwyrdd a brown yn liwiau sy'n
> cael eu cymysgu gan y lliwddall (fy ngwr e.e) - felly ....!
>
> Catrin
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, March 27, 2002 11:05 AM
> Subject: Re: Brown Argus
>
>
> > Diolch yn fawr Elin:
> > GPC: gwrm/gwrwm: brown, brown tywyll, cochlyd, gwineulwyd, llwytu,
> tywyll,
> > du, dulas, glas tywyll, glas !!
> > Beth mae hynny'n ei ddweud wrthym am synnwyr lliw y Cymry?
> > Mae'n fy nharo i'n rhyfedd o hyd - hyd y gwela i, dydi "glas" ddim yn
> gallu
> > golygu "brown" ac mae'r creadur bach yma yn sicr yn frown.
> > Sian
> >
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Elin Meek" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, March 27, 2002 10:59 AM
> > Subject: Re: Brown Argus
> >
> >
> > > Yn y llyfr Ieir Bach yr Haf, Gomer, 1995, Addasiad Cymraeg gan Dafydd
> > Dafis,
> > > yr hyn a geir t.26 yw:
> > >
> > > Gwrmyn Glas - gyda Brown Argus ar ei ôl yn y mynegai, t.60.
> > > Yna, Gwrmyn Glas yr Alban - Mountain neu Scotch Brown Argus yn y
> mynegai.
> > >
> > > Gwrmyn y Ddôl yw'r enw ar Meadow Brown wedyn.
|