Ble bu chwarel Goleuwern ger fferm Cyfannedd Fawr uwch ben Friog/Arthog, mae
yno bellach lyn. Yr enw ar fap yr OS, a'r unig un ydw i wedi ei weld a'i
glywed ydi Blue Lake. Ddaru adran archifau Cyngor Gwynedd yn Nolgellau
ddweud mai dyna ydi'r enw cywir, ond yn yr un gwynt dywedodd y llefarydd fod
pawb yn anghywir yn galw Corris Ucha yn unrhyw beth heblaw Top Corris!
I ddychwelyd at fy nghwestiwn, a ydych yn gwybod am enw heblaw Blue Lake am
y llyn sydd bellach yn llenwi chwarel Goleuwern?
Oddi wrth John Puw,
[log in to unmask]
|