Dw i ddim yn gymwys i dorri'r ddadl ynghylch cywirdeb ymadroddion fel 'ysgol
llawn plant', ond byddwn i'n tybio'i bod hi'n fwy naturiol dweud 'ysgol
sy'n/a oedd yn/a fu'n/a fydd yn llawn plant' gan fod y Saesneg yn dueddol o
hepgor y ferf mewn achosion fel y rhain. Mae defnyddio'r ferf 'bod' + 'yn'
fel petai'n rhyw fath o olew sy'n cadw'r geiriau bob ochr iddynt i lifo'n
esmwyth - ac yn ein helpu i osgoi gorfod meddwl am gywirdeb ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 05, 2002 9:18 AM
Subject: hearing impaired
> Bore da Ann ym Mangor. Mae'n ddrwg gen i fy mod i wedi newid teitl y
> pwnc trafod. Ta waeth. Er gwaethaf chwilio trwy'r llyfrau, fedra i
> ddim dod o hyd i ddim byd i atgyfnerthu fy honiad. Serch hynny, dwi
> wedi siarad efo staff yr Adran Gymraeg yma, ac maent hwythau o'r farn
> mai 'ysgol llawn plant', 'siop llawn llyfrau', a 'pobl trwm eu clyw'
> sydd yn iawn!
> Wrth gwrs, fe garwn wybod ar ba sail y penderfynwyd eu bod yn
> gyfeiliornus - os bydd amser yn caniatau ryw dro.
> Diolch yn fawr.
> John.
>
|