Bore da Ann ym Mangor. Mae'n ddrwg gen i fy mod i wedi newid teitl y
pwnc trafod. Ta waeth. Er gwaethaf chwilio trwy'r llyfrau, fedra i
ddim dod o hyd i ddim byd i atgyfnerthu fy honiad. Serch hynny, dwi
wedi siarad efo staff yr Adran Gymraeg yma, ac maent hwythau o'r farn
mai 'ysgol llawn plant', 'siop llawn llyfrau', a 'pobl trwm eu clyw'
sydd yn iawn!
Wrth gwrs, fe garwn wybod ar ba sail y penderfynwyd eu bod yn
gyfeiliornus - os bydd amser yn caniatau ryw dro.
Diolch yn fawr.
John.
|