Diolch o galon Ann a Delyth. Efydd sydd dan sylw - tancard celfydd Celtaidd
o ardal Trawsfynydd - felly mi gadwaf at efydd bwrw. Yn anffodus mae diffyg
amser nawr i mi siecio gyda'n Harcholegydd ni (fel y dyliwn i fod wedi'i
wneud yn y lle cyntaf) cyn cyflwyno'r gwaith, ond mi wnaf siecio gydag e'n y
dyfodol, ac addasu'r peth wedyn.
Diolch yn fawr eto (ac am fod mor onest!).
Non
> -----Original Message-----
> From: Delyth Prys [SMTP:[log in to unmask]]
> Sent: Monday, March 04, 2002 2:32 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Cast bronze
>
> Yn gyffredinol yn y Gymraeg cedwir 'pres' i gyfateb i 'brass' oherwydd y
> tybir mai benthyciad Hen Saesneg o hwnnw yw'r ffurf Gymraeg, a defnyddir
> 'efydd' i gyfateb i 'bronze' yn Saesneg.
>
> Yn l diffiniad yr OED am bronze: "A brown-coloured alloy of copper and
> tin,
> sometimes also containing a little zinc and lead. Formerly
> included under the term BRASS, q.v.; the name bronze was introduced for
> the
> material of ancient works of art, or
> perhaps rather for the works of art themselves" ac o dan brass rhoddir:
> "a.
> Historically: The general name for all alloys of copper with tin or zinc
> (and occasionally other base metals). To distinguish alloys of copper and
> tin, the name BRONZE has subsequently been adopted (Johnson 1755-73
> explains
> the new word bronze as 'brass'). Hence b. In strict modern use, as
> distinguished from 'bronze': A yellow-coloured alloy of copper and zinc,
> usually containing about a third of its weight of zinc."
>
> Dydw i ddim yn cofio unrhyw drafodaeth benodol ar y term hwn, ac rwy wedi
> methu cysylltu 'r golygydd a'r archaeolegydd J Ll Williams i weld a yw ef
> yn cofio rheswm arbennig dros gynnwys y ffurf hon.
>
> Mae tri dehongliad posibl felly:
> 1. cymysgedd copr a sinc sydd dan sylw , yn hytrach na chopr a tin
> 2. mae hwn yn ffosil o ymadrodd h.y. mae'r ystwffwl yma wastad wedi cael
> ei
> alw yn un 'pres' yn y Gymraeg a dyna'r ffurf sydd wedi plwyfo (mewn rhyw
> faes archaeolegol cyfyng)
> 3. mai ffurf anghyson ydyw.
>
> Fy hun, rwy'n ffafrio'r 3ydd dehongliad (gan wybod mor ffaeledig yw
> geiriaduron termau) ond awn i ddim i daeru ar hynny heb ymgynhori
> ymhellach.
>
> Delyth
>
> ----- Original Message -----
> From: "Non Tudur" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, March 04, 2002 11:02 AM
> Subject: Cast bronze
>
>
> > Yn chwilio am y term cywir am yr uchod - yn y Geiriadur Termau
> Archaeoleg
> > (GPC 1999) rhoddir 'efydd' bob tro o dan 'bronze' - heblaw o dan 'cast
> > bronze staple', lle rhoddir 'ystwffwl pres bwrw'. Oes na wahaniaeth pan
> fydd
> > efydd yn y cyflwr hwn, h.y., ei fod wedi newid i bres? Neu ai 'ystwffwl
> > efydd bwrw' ddylai'r llyfr fod wedi'i roi? Yn Ngeiriadur yr Academi ceir
> > efydd am bronze, a phres am brass (ac efydd yn derm llenyddol amdano).
> >
> > Byddwn yn gwerthfawrogi eich help, yn enwedig ymateb Delyth Prys.
> > Diolch ymlaen llaw.
> > Non
> > Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni
> cheir
> > yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat
> yw
> > hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
> > cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
> > gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
> > Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
> > chopo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
> > Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the
> views
> of
> > the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
> > Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
> > only. Its contents may be confidential. If you have received this
> message
> in
> > error please reply to say so and then delete the message. Any use,
> copying,
> > disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
> >
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|