Oes, mae 'na gynllun Tir Gofal sy'n rhoi cymorth grant i ffermwyr ofalu am
eu tir drwy wneud gwelliannau i amgylchedd a chadwraeth y fferm, ynghyd a*
nodweddion archeolegol, adeiladau, diwylliannol ayb. Mae yna amodau penodol
y mae'n rhaid iddynt lynu wrthynt. 'Dan ni wedi bod yn defnyddio 'rheoli
tir' yn y cyswllt yma, ond byddwn yn arfer 'gofalu', 'trin', 'amaethu',
'gwarchod', 'gwella' ayb mewn gwahanol gyd-destunau. Ond yn cytuno bod
'rheoli' yn awgrymu bod rhywun yn cadw'r tir o dan reolaeth (ariannol), ac
felly'n anaddas braidd os gwella a thrin y tir sydd o dan sylw. Yn hynny o
beth, mi faswn yn cadw at 'ofalu am y tir'.
Mae'r ddau derm isod yn cael eu defnyddio'n aml:
Landmanagers - Rheolwyr tir (h.y. perchnogion/tenantiaid tir sy'n
ffermio)
Landowners - Tirfeddianwyr
Non
> -----Original Message-----
> From: Glenys Roberts [SMTP:[log in to unmask]]
> Sent: Monday, March 18, 2002 10:07 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Manage the land
>
> Gwen - baswn i'n meddwl bod y geiriau roeddech chi'n eu defnyddio - 'trin'
> a 'gofalu' yn reit agos ati. Ydy 'Gofalu am y tir' yn ddigon penodol?
> Yn sicr, ôl gofal sydd ar diroedd o'r fath, ac mae'r gair Cymraeg yn
> awgrymu mwy o gariad at y tir na'r un Saesneg. Mae 'na, neu roedd 'na,
> gynllun 'Tir Gofal' ac efallai y gallai rhywun o'r gymuned amaethyddol ein
> goleuo yngly^n â hwnnw.
>
> Glenys
> ----- Original Message -----
>
> From: Gwen Evans <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Sunday, March 17, 2002 3:52 PM
> Subject: Manage the land
>
> Mae 'rheoli' yn awgrymu busnes. Tybed all y rhai sydd o gefndir cefn
> gwlad neu ffermio ddweud beth yw'r gair traddodiadol am ofalu am y tir a'i
> drin yn briodol. (tir mynydd- pryd i losgi'r grug ac yn y blaen).
> Diolch i bawb.
>
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|