Mae'n rhaid cyfaddef taw anfon neges ar ran cyfieithydd arall wnes i ac felly yn ansicr ynglyn â'r cyd-destun fy hun!
Dyma ei sylwadau:
"Credaf mai mynd i'r afael â'r cyfalaf deallusol sydd agosaf at ystyr a naws y gwreiddiol.
Diolch am eich holl gyfraniadau"
Gobeithio fydd hyn yn datrys unrhyw anghydweld!
Diolch yn fawr,
Lowri
>>> [log in to unmask] 03/15/02 03:58pm >>>
assault = yr ymosodiad terfynol, rhan ola'r ymosodiad, yr ymosodiad mawr
olaf, y cyrch olaf/terfynol
Ond yn o^l at 'engaging ...', beth am 'Manteisio ar Ddeallusrwydd Pob Copa
Walltog/Pob Aelod o'r Cwmni/ar Ffrwyth Meddwl Pawb' neu 'Ysgogi Pawb i
Feddwl'?
Lowri, torra'r ddadl, plis! Mae fy nghyfalaf deallusol wedi'i ddihysbyddu
...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, March 15, 2002 3:21 PM
Subject: Re: Engaging Intellectual Capital
-----Original Message-----
From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Friday, March 15, 2002 2:45 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Engaging Intellectual Capital
to engage the enemy - mynd i'r afael a^'r gelyn, ymladd y gelyn, dechrau
brwydro
>>> Alffa ++++!
to resolve the engagement - (beth yw'r ystyr?) 'ennill y frwydr'? chwalu
lluoedd y gelyn?
>>> Gallai fynd y ffordd arall hefyd!
rules of engagement - rheolau mynd i'r afael a^'r gelyn,
>>> Diolch yn dwlpe, Cyrnol Jôs! Gan ein bod ar y trywydd milwrol, beth am
'assault' (='the last phase of the attack, between
>>> crossing the start line and securing the enemy's position')?
Rhaid holi Lowri am y cyd-destun. A oes unrhyw beth a gynigiwyd hyd yn hyn
yn taro deuddeg?
>>> Ddim rîlî ...
Am wn i, gallai Caerdydd, Paris neu Lundain fod yn engaging intellectual
capital, hynny yw, yn brifddinas apelgar y eallusion
...)
>>> Caerdydd yn yr un ffordd ag y mae Ex-Lax yn siocled!
>>> Tim
|