'Datganiad bachog' sydd yng Ngeiriadur Terminoleg Trefniadaeth y Cynulliad.
Ar y pryd (1999), doedd gan neb ddim byd gwell i'w gynnig. Dwi'n ofni na
fyddwn i ddim yn derbyn 'tameidiau sain', ond os oes gan rywun gynnig gwell
... O feddwl, a oes gan gyfieithwyr y Cynulliad ymadrodd neu air bachog
amdano?
Petai w-t-c wedi bod ar gael adeg llunio Geiriadur y Cynulliad, mae'n ddigon
posib y byddem ni wedi dod ar ofyn aelodau'r cylch am lawer term. Adeg
llunio'r geiriadur hwnnw, gofynnais i rai cyfieithwyr profiadol iawn am eu
barn ar rai o'r termau, ond rwy'n ofni nad oedd 'soundbite' yn un ohonyn
nhw.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Owen Thomas" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, March 14, 2002 11:49 AM
Subject: Soundbite
> Unrhyw gynigion?
>
> Diolch.
>
> Owen Thomas
>
|