Fe darodd hynny fi hefyd, ond gan nad ydym ni eto wedi dechrau so^n am
'ficera', 'esgobio' na 'deonio', byddwn i'n cymryd bod ystyr 'curadu' yn
weddol amlwg. Mae 'curadura' yn swnio i mi fel cyfuniad o 'cur' a 'dur' -
cyfieithiad efallai o'r berfenw gwneud 'to mike-tyson'! (Every noun can be
verbed, chwedl yr Americanwr ...)
Fe ofynnaf i olygydd Termau Archifau am ei barn.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 19, 2002 2:57 PM
Subject: Re: curated by
> Teimla Bruce fod "curadu" yn awgrymu "gweithio fel curad", a bod angen
> "curaduro" neu "curadura" i awgrymu "gweithio fel curadur". Ond byddwn
i'n
> meddwl y gellir osgoi defnyddio'r un ohonynt yn yr enghraifft a roddwyd.
>
> Ann
>
|