Hoffwn amenio'n frwd i sylwadau Delyth, ac hefyd ategu ambell i bwynt
fechan.
Mae'n fwy tebygol fod hwn yn gyfieithiad ddewiswyd wrth weithio ar frys ac o
dan bwysau - problem sy'n gyfarwydd i ni i gyd.
> Mea maxima culpa sawl gwaith drosodd!
Y cwestiwn wedyn, ac rydym i gyd wedi gorfod wynebu hyn hefyd, yw beth sy'n
digwydd pan fydd yn rhaid i ni ddyfynnu neu ddilyn dogfen arall lle nad ydym
yn hapus gyda'r cyfieithiad gwreiddiol. Mae cywirdeb cysyniadol ein
cyfieithiadau yn bwysig (llawer pwysicach na chysondeb termau)
> Amen, amen ac amen!
a cheir rhai sefyllfaoedd lle mae'n rhaid tynnu sylw'r sawl gomisiynodd y
cyfieithiad gwreiddiol at wallau pwysig.
> Bydd gofyn am ddoniau diplomataidd *neilltuol* weithiau, gan fod
ceidwadaeth gynhenid rhai ohonom yn ein gwneud yn amharod > i ystyried
newid y cyfarwydd, hyd yn oed er gwell. Oes gan gyd-weithwyr unrhyw
gynghorion arbennig am sut i eirio sylwaday > ayyb?
Yn yr achos hwn byddwn yn awgrymu:
1. bod y cyfieithydd ddaeth ar draws y broblem yn awr yn gofyn am ddiffiniad
manylach o'r broses dan sylw er mwyn deall yr ystyr yn well.
> Beth yw'r peth gorau i'w wneud os yw'r cyfieithydd yn anfodlon trafod y
mater?
2. os yw'n canfod mai 'cynllun pontio' fyddai'r cyfieithiad cywiraf yma ei
bod hi'n defnyddio'r term hwnnw gan ychwanegu rhwng cromfachau ar ei ôl
"(sydd hefyd wedi cael ei alw yn 'gynllun trawsnewid')" y tro cyntaf mae'n
digwydd yn ei chyfieithiad er mwyn i ddarllenwyr gysylltu'r term gyda'r term
arall yn y ddogfen flaenorol 3. bod y cylch trafod yn cael gwybod beth oedd
y penderfyniad fel bod cofnod ohono yn yr archif ar gyfer y dyfodol.
> Tybed a fyddai modd golygu ac argraffu archifau'r rhestr drafod yma, er
mwyn y bobl sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd? Os gwn > i a fyddai rhyw
gyfnodolyn safonol yn fodlon cynnwys colofn eirfaol yn tarddu o'r rhestr
yma?
Mae pwynt 2 uchod yn ddyfais y mae modd ei defnyddio mewn sefyllfaoedd
eraill lle nad yw rhywun yn hapus i gadw at derm sydd wedi'i ddefnyddio'n
flaenorol. Byddai'n dda clywed os yw aelodau eraill y cylch wedi canfod
ffyrdd eraill o ddelio gyda'r broblem hon.
> Mewn egwyddor, fe ddylai canllawiau Delyth fod yn ddigon rhwydd i'w
cymhwyso, gan fod termau ac ymadroddion cysefin yn > cael eu newid o
bryd i'w gilydd mewn sawl iaith fodd bynnag. Gan fod pwer i roi grym
cyfreithiol i eiriau Cymraeg gyda'r
> Cynulliad, tybed a fyddai modd sefydlu rhyw fath o drefn gogyfer ag
adolygu cywirdeb termau'm gyson a sicrhau bod rhai
> anghywir yn cael eu disodli?
Tim
|