Yn gyffredinol yn y Gymraeg cedwir 'pres' i gyfateb i 'brass' oherwydd y
tybir mai benthyciad Hen Saesneg o hwnnw yw'r ffurf Gymraeg, a defnyddir
'efydd' i gyfateb i 'bronze' yn Saesneg.
Yn ôl diffiniad yr OED am bronze: "A brown-coloured alloy of copper and tin,
sometimes also containing a little zinc and lead. Formerly
included under the term BRASS, q.v.; the name bronze was introduced for the
material of ancient works of art, or
perhaps rather for the works of art themselves" ac o dan brass rhoddir: "a.
Historically: The general name for all alloys of copper with tin or zinc
(and occasionally other base metals). To distinguish alloys of copper and
tin, the name BRONZE has subsequently been adopted (Johnson 1755-73 explains
the new word bronze as 'brass'). Hence b. In strict modern use, as
distinguished from 'bronze': A yellow-coloured alloy of copper and zinc,
usually containing about a third of its weight of zinc."
Dydw i ddim yn cofio unrhyw drafodaeth benodol ar y term hwn, ac rwy wedi
methu cysylltu â'r golygydd a'r archaeolegydd J Ll Williams i weld a yw ef
yn cofio rheswm arbennig dros gynnwys y ffurf hon.
Mae tri dehongliad posibl felly:
1. cymysgedd copr a sinc sydd dan sylw , yn hytrach na chopr a tin
2. mae hwn yn ffosil o ymadrodd h.y. mae'r ystwffwl yma wastad wedi cael ei
alw yn un 'pres' yn y Gymraeg a dyna'r ffurf sydd wedi plwyfo (mewn rhyw
faes archaeolegol cyfyng)
3. mai ffurf anghyson ydyw.
Fy hun, rwy'n ffafrio'r 3ydd dehongliad (gan wybod mor ffaeledig yw
geiriaduron termau) ond awn i ddim i daeru ar hynny heb ymgynhori ymhellach.
Delyth
----- Original Message -----
From: "Non Tudur" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 04, 2002 11:02 AM
Subject: Cast bronze
> Yn chwilio am y term cywir am yr uchod - yn y Geiriadur Termau Archaeoleg
> (GPC 1999) rhoddir 'efydd' bob tro o dan 'bronze' - heblaw o dan 'cast
> bronze staple', lle rhoddir 'ystwffwl pres bwrw'. Oes na wahaniaeth pan
fydd
> efydd yn y cyflwr hwn, h.y., ei fod wedi newid i bres? Neu ai 'ystwffwl
> efydd bwrw' ddylai'r llyfr fod wedi'i roi? Yn Ngeiriadur yr Academi ceir
> efydd am bronze, a phres am brass (ac efydd yn derm llenyddol amdano).
>
> Byddwn yn gwerthfawrogi eich help, yn enwedig ymateb Delyth Prys.
> Diolch ymlaen llaw.
> Non
> Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni
cheir
> yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat
yw
> hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
> cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
> gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
> Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
> chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
> Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views
of
> the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
> Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
> only. Its contents may be confidential. If you have received this message
in
> error please reply to say so and then delete the message. Any use,
copying,
> disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
>
|