Dyma'r hyn sy gen i o dan 'to engage', 'engagement' ac 'engaging':
to engage: when actively e.-ed in - wrthi'n; to e. their interest -
ennyn/ysgogi eu diddordeb; to e. them in the conversation - eu cynnwys yn y
sgwrs; to e. them in setting up investigations - eu cynnwys yn y broses o
sefydlu ymchwiliadau; to 'e.' with a work of art - mynd i'r afael â gwaith
celf; to e. in behaviour which ... - ymddwyn mewn ffordd sy'n/a oedd yn ...;
to e. in discussion and debate - trafod a dadlau; to be e.-ed in activities
which - bod wrthi'n/yn cyflawni gweithgareddau sy'n; to e. in conduct which
... - ymddwyn mewn ffordd sy'n ...; to e. the imagination - cyffroi/tanio'r
dychymyg
engaging - apelgar
engagement: the result was her total e. in - o ganlyniad fe lwyr ymgollodd
hi yn/mewn
Anelu at fod yn rhwysgfawr roeddwn i, yn hytrach na chyfleu union ystyr yr
ymadrodd. Mae'n fwy na thebyg mai dyna'r hyn roedd 'awdur' yr ymadrodd yn
ceisio'i wneud hefyd.
Rwy'n dy gofio di, Tim, yn llafarganu 'Dwysfyfyrio uwch Dyrysbynciau' yn
afieithus flynyddoedd yn o^l - ymadrodd digon tebyg yw 'Engaging
Intellectual Capital'!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, March 15, 2002 11:08 AM
Subject: Re: Engaging Intellectual Capital
Mae cysyniad anthropolegol/cymdeithasegol 'cyfalaf diwylliannol' dipyn yn
lletach na syniadau, heb sôn am rai deallusol yn unig. Beth yw'r ffordd orau
o gyfleu'r 'engagement' 'na - gair trafferthus ar y naw!
Tim
-----Original Message-----
From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Friday, March 15, 2002 10:44 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Engaging Intellectual Capital
Ai teitl rhodresgar sy'n golygu 'gofyn i bawb gyfrannu eu syniadau' yw hwn?
A fyddai 'Sicrhau Cyfraniadau Deallusol' yn drosiad digon rhwysgfawr?
Rwyf am fynd i gornel dywyll i orffwys ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Lowri Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, March 15, 2002 9:59 AM
Subject: Engaging Intellectual Capital
Eto, teitl ar seminar yn ymwneud â MBA Busnes.
Diolch o galon,
Lowri
|