Dw i'n meddwl mai swyddogaeth y 'notice' ym mhob achos sydd i'w gyfrif am y
gwahaniaethu. Mae 'Notice of Road Closure', 'Notice of Intended Prosecution'
yn rhybuddion o bethau sy'n debygol o fod yn eithaf amhoblogaidd efo'r rhai
sy'n eu derbyn; a gorchmynion yw 'Notice to Produce Documents', 'Notice to
Show Cause' ac yn y blaen. Felly, 'rhybudd' yw'r term arferol mewn achosion
o'r fath.
Wyn
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 14 March 2002 15:13
Subject: Re: giving of notice
> Diflannodd fy ymateb i gwestiwn Gwen cyn i mi weld sylw Wyn. O edrych yng
> ngeiriadur y Gyfraith, ceir 'hysbysiad' ryw 3-4 gwaith allan o 15 a
> 'rhybudd' am y gweddill. Dyw hi ddim yn gwbl glir a yw Robyn Lewis wedi
> gwahaniaethu'n ofalus rhyngddyn nhw nac ar ba sail y gwnaeth ef hynny. Ond
> mae'n deg dweud mai 'rhaghysbysiad' - nid 'rhagrybudd' - sydd ganddo am
> 'preliminary notice'.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, March 14, 2002 2:51 PM
> Subject: Re: giving of notice
>
>
> >
> > Yn y cyd-destun arbennig hwnnw, hysbysiad sydd orau, mae'n debyg!
> >
> > Wyn
> >
> >
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: 14 March 2002 14:40
> > Subject: giving of notice
> >
> >
> > > Cyd-destun: ffioedd Cofrestrydd am 'giving of notice' i briodi. Oes
term
> > > penodol? Rhoi hysbysiad? rhoi rhybudd?
> > >
> > > Diolch
> > > Gwen
> >
> >
'Mae'r wybodaeth yn y neges hon yn gyfrinachol a dichon mai ychydig iawn o bobl sydd â hawl iddi. Bwriedir hi ar gyfer neb ond y sawl y cyfeirir hi ato/ati. Os nad chi yw'r derbynnydd bwriedig, gofynnir ichi beidio â'i darllen na'i phrintio na'i hail-anfon, na'i storio na gweithredu yn ei chylch neu ynghylch unrhyw atodiadau iddi. Yn hytrach, hysbyswch yr anfonydd os gwelwch yn dda, gan ddileu'r neges o'ch system yn syth.
Dalier sylw nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy na'r anfonydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am feirws, a'ch cyfrifoldeb chi yw sganio'r atodiadau (os oes rhai).
Information in this message is confidential and may be privileged. It is intended solely for the person to whom it is addressed. If you are not the intended recipient please do not read, print, re-transmit, store or act in reliance on it or any attachments. Instead, please notify the sender and delete the message from your system immediately.
Please note that neither Conwy County Borough Council nor the sender accepts any responsibility for viruses and it is your responsibility to scan attachments (if any).'
|