Myfyrdod ar Gywirdeb Gwleidyddol a'i wiriondebau sydd gen i y bore 'ma.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, cylchredwyd dogfen (dydw i ddim yn cofio'n iawn
gan bwy) a oedd yn ceisio sefydlu termau derbyniol safonol ym
maes 'disability'. Yn ôl hon, yr oedd yr ymadroddion 'yr anabl' a 'pobl
anabl' i gael eu hystyried yn esgymundermau; a'r ymadrodd 'pobl ag/gydag
anabledd' y dylai pob cyfieithydd gwaraidd, goleuedig o ewyllys da ei
ddefnyddio o hynny ymlaen. Dyna, felly, a wnaed yn yr Uned hon -- ac yn ôl
chwiliad Google a wnaed gennym ychydig funudau yn ôl, dyna a wnaed yn
unedau cyfieithu sawl corff arall hefyd.
Heddiw, fodd bynnag, derbyniwyd copi glân gwyryfol o gyhoeddiad gan y Bwrdd
Iaith a'r Comisiwn Hawliau Anabledd dan y teitl "Anabledd ac Iaith :
canllawiau defnyddio terminoleg anabledd". Ac wele, ar dudalen 7,
gyfarwyddyd newydd: mae 'yr anabl' yn parhau'n esgymunderm, ond bellach
mae 'pobl ag anabledd' wedi ymuno ag ef yng nghynteddau'r melltigedigion,
a'r ymadrodd 'pobl anabl' fydd nod rhinwedd cyfieithyddol yn awr.
Diddorol oedd sylwi, yn ystod y dywededig chwiliad Google, fod yna nifer
sylweddol o gyrff sydd erioed wedi rhoi'r gorau i'r arfer o
ddefnyddio 'pobl anabl' neu 'yr anabl'. Pwy oedd gallaf, tybed? Ac yn y
cyd-destun hwn, beth fyddai'r gair Cymraeg gorau am 'shambles'?
Wyn
|