1. bod yr awdurdodau milwrol wedi cipio'r drefn (sydd ohoni) (i'w dwylo'u
hunain) ac yn gallu ...
2. bod yr awdurdodau milwrol wedi meddiannu'r drefn (sydd ohoni) ac yn gallu
...
3. mai'r awdurdodau milwrol sy'n tra-arglwyddiaethu/sy'n mynd a^ hi/sydd
wedi ennill y dydd
4. bod yr awdurdodau milwrol yn drech na (dymuniadau)'r wlad(wriaeth)
5. bod yr awdurdodau milwrol wedi cael y llaw uchaf/drechaf ar y
wlad(wriaeth)
6. bod dymuniadau'r fyddin yn drech (o lawer) na'r rhai'r bobl/werin bobl
7. trech byddin na llais y werin
(Am ryw reswm, mae'r cynnig olaf yn f'atgoffa o 'ddihareb'a glywais gan Owen
Edwards, cyn-bennaeth S4C: 'Twyll yw pob teledu'!)
Rwy'n rhyw dybio mai 'y drefn' yw'r trosiad gorau ar gyfer 'machine' yn 'the
ghost in the machine' a 'welcome to the machine'. Gall 'y drefn' fod yr un
mor annynol ag unrhyw beiriant!
Gobeithio bod y rhain o ryw gymorth.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, February 25, 2002 4:37 PM
Subject: machine
> Tybed a all rhywun fy helpu. Dyma ymwrthodwr cydwybodol yn ôl ym
> Mehefin 1917 yn sgwennu at ei wraig gan ofni ei fod yn mynd i gael ei
> saethu.
>
> 'The fact that men are being sent to France at all is proof positive to
> me that the military authorities have captured the machine and are able
> to do as they like with us.'
>
> Cofio record gan Pink Floyd ers talwm gyda'r frawddeg 'Welcome, my son,
> to the machine.'
>
> Clywir hefyd am 'the ghost in the machine.'
>
> Y peth pwysicaf i mi yw ystyr 'captured the machine.'
>
> Os gellir bwrw goleuni ar y tri, gorau oll.
>
|