yn wreiddiol roedd 'ystod' yn golygu faint o wair ellid ei dorri
phladur ar un doriad. Mae wedi cadw rhywfaint o'r naws o fod yn 'amrediad o
fewn ffiniau diffiniedig' - fel arfer term sy'n cael ei ddefnyddio ym myd
addysg yw heddiw, ond mae ei ddefnydd yn lledu.
Os edrychwch chi yn y Termiadur Ysgol, fe welwch chi:
range (=extent) amrediad
range (=reach) cyrhaeddiad
range (=variety) amrywiaeth
range (of ability etc) ystod
range (of products) dewis
a Ministry of Defence range = maes tanio'r Weinyddiaeth.
Delyth Prys
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 06, 2002 4:13 PM
Subject: Re: range
> Byddwn i'n meddwl bod 'amrywiaeth' yn gyfieithiad posibl os nad yw'r ystyr
> yn rhy dechnegol gul. Dywedodd rhywun wrthyf rywdro y dylwn gadw
'amrediad'
> ar gyfer cyd-destunau mathemategol.
>
> Gan nad yw 'ystod' yn un o'm hoff eiriau, all rhywun ddweud wrthyf pwy
> ddechreuodd ei ddefnyddio i olygu 'range' - a pham?
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, February 06, 2002 11:52 AM
> Subject: range
>
>
> > A oes rhywun arall o'r farn bod y gair "ystod" yn cael ei
> > orddefnyddio/gamddefnyddio am "range" ? e.e. "Mae yna ystod o bethau y
> > gallwch eu gwneud yno" pan fyddai "llawer", "nifer", "amryw" yn gwneud y
> > tro yn iawn.
> > Sian
> >
>
|