A bod yn deg - nid dim ond yn y Gymraeg mae trafferthion.
Tra'n cyfeirio myfyrwyr at ymchwil ym maes anableddau rwy'n cael
trafferth mawr gyda rhai sy'n anfodlon defnyddio'r termau "mental
retardation" a "mentally retarded" wrth bori am bapurau ymchwil - ond os
na fyddant yn defnyddio'r termau hynny maent yn methu'r holl waith
ymchwil yn yr UD! I ni yma mae'r termau yn wrthyn - ond yn yr UD mae'r
pobl anabl eu hunain yn dewis cadw'r termau.
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary including
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Wyn Hobson
> Sent: 26 February 2002 10:46
> To: [log in to unmask]
> Subject: Disabled
>
>
> Myfyrdod ar Gywirdeb Gwleidyddol a'i wiriondebau sydd gen i y
> bore 'ma.
>
> Ychydig flynyddoedd yn ôl, cylchredwyd dogfen (dydw i ddim yn
> cofio'n iawn gan bwy) a oedd yn ceisio sefydlu termau
> derbyniol safonol ym maes 'disability'. Yn ôl hon, yr oedd
> yr ymadroddion 'yr anabl' a 'pobl anabl' i gael eu hystyried
> yn esgymundermau; a'r ymadrodd 'pobl ag/gydag anabledd' y
> dylai pob cyfieithydd gwaraidd, goleuedig o ewyllys da ei
> ddefnyddio o hynny ymlaen. Dyna, felly, a wnaed yn yr Uned
> hon -- ac yn ôl chwiliad Google a wnaed gennym ychydig
> funudau yn ôl, dyna a wnaed yn unedau cyfieithu sawl corff
> arall hefyd.
>
> Heddiw, fodd bynnag, derbyniwyd copi glân gwyryfol o
> gyhoeddiad gan y Bwrdd Iaith a'r Comisiwn Hawliau Anabledd
> dan y teitl "Anabledd ac Iaith : canllawiau defnyddio
> terminoleg anabledd". Ac wele, ar dudalen 7, gyfarwyddyd
> newydd: mae 'yr anabl' yn parhau'n esgymunderm, ond bellach
> mae 'pobl ag anabledd' wedi ymuno ag ef yng nghynteddau'r
> melltigedigion, a'r ymadrodd 'pobl anabl' fydd nod rhinwedd
> cyfieithyddol yn awr.
>
> Diddorol oedd sylwi, yn ystod y dywededig chwiliad Google,
> fod yna nifer sylweddol o gyrff sydd erioed wedi rhoi'r gorau
> i'r arfer o ddefnyddio 'pobl anabl' neu 'yr anabl'. Pwy oedd
> gallaf, tybed? Ac yn y cyd-destun hwn, beth fyddai'r gair
> Cymraeg gorau am 'shambles'?
>
> Wyn
>
|