1. Cytuno -- mympwy personol yw pob mympwy cymdeithasol-wleidyddol yn y
bôn.
2. Fuaswn i ddim yn prisio mympwyon y fynud hon yn is na mympwyon unrhyw
gyfnod a fu, oherwydd fy mod i'n prisio mympwyon yr un mor isel â'i gilydd:
dydi newid syniadau efo pob chwa o wynt o gyfeiriad newydd yn gydnaws â
"phwyll a chydbwysedd".
Wyn
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 27 February 2002 10:50
Subject: Re: Disabled
Ie-e-e-e ....
Ond ...
Pam fod 'mympwyon cymdeithasol-wleidyddol' [a oes unrhyw ddiffiniad eglur a
chadarn o beth sy'n 'fympwy' - ar wahan, wrth gwrs, i fympwy personol!] y
funud hon i'w prisio'n is na 'mympwyon cymdeithasol-wleidyddol' unrhyw
funud, awr, flwyddyn, neu oes flaenorol?
Tim
-----Original Message-----
From: Wyn Hobson [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, February 27, 2002 10:51 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Disabled
Cytuno'n llwyr -- a gyda'r union feini prawf hynny mewn golwg, hoffwn wneud
y cynnig cadarnhaol fod trafodaethau ehangach yn cael eu cynnal cyn
dosbarthu awgrymiadau ynglyn ag 'arfer da', a bod y trafodaethau hynny'n
derbyn tipyn llai o'u dylanwadu gan fympwyon cymdeithasol-wleidyddol y
funud.
Wyn
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 27 February 2002 10:36
Subject: Re: Disabled
Nage. Dim ond tipyn bach o bwyll a chydbwysedd.
Tim
-----Original Message-----
From: Wyn Hobson [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, February 27, 2002 10:41 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Disabled
Anhrefn termyddol amdani, felly..... ?
Wyn
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 27 February 2002 10:26
Subject: Re: Disabled
Ho ho ho.
I lawer iawn o bobl, 'cywirdeb gwleidyddol' gyda'r mwyaf chwerthinllyd yw
sôn am Gymru fel gwlad, sillafu Llanelli gydag 'i' yn lle 'y', sgrifennu enw
seren 'Solomon a Gaenor' mewn unrhyw ffordd ar wahan i 'Ian Griffiths', a
gwario arian cyhoeddus ar fersiynau Cymraeg dogfennau.
Tim
-----Original Message-----
From: Wyn Hobson [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Tuesday, February 26, 2002 10:46 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Disabled
Myfyrdod ar Gywirdeb Gwleidyddol a'i wiriondebau sydd gen i y bore 'ma.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, cylchredwyd dogfen (dydw i ddim yn cofio'n iawn
gan bwy) a oedd yn ceisio sefydlu termau derbyniol safonol ym
maes 'disability'. Yn ôl hon, yr oedd yr ymadroddion 'yr anabl' a 'pobl
anabl' i gael eu hystyried yn esgymundermau; a'r ymadrodd 'pobl ag/gydag
anabledd' y dylai pob cyfieithydd gwaraidd, goleuedig o ewyllys da ei
ddefnyddio o hynny ymlaen. Dyna, felly, a wnaed yn yr Uned hon -- ac yn ôl
chwiliad Google a wnaed gennym ychydig funudau yn ôl, dyna a wnaed yn
unedau cyfieithu sawl corff arall hefyd.
Heddiw, fodd bynnag, derbyniwyd copi glân gwyryfol o gyhoeddiad gan y Bwrdd
Iaith a'r Comisiwn Hawliau Anabledd dan y teitl "Anabledd ac Iaith :
canllawiau defnyddio terminoleg anabledd". Ac wele, ar dudalen 7,
gyfarwyddyd newydd: mae 'yr anabl' yn parhau'n esgymunderm, ond bellach
mae 'pobl ag anabledd' wedi ymuno ag ef yng nghynteddau'r melltigedigion,
a'r ymadrodd 'pobl anabl' fydd nod rhinwedd cyfieithyddol yn awr.
Diddorol oedd sylwi, yn ystod y dywededig chwiliad Google, fod yna nifer
sylweddol o gyrff sydd erioed wedi rhoi'r gorau i'r arfer o
ddefnyddio 'pobl anabl' neu 'yr anabl'. Pwy oedd gallaf, tybed? Ac yn y
cyd-destun hwn, beth fyddai'r gair Cymraeg gorau am 'shambles'?
Wyn
'Mae'r wybodaeth yn y neges hon yn gyfrinachol a dichon mai ychydig iawn o bobl sydd â hawl iddi. Bwriedir hi ar gyfer neb ond y sawl y cyfeirir hi ato/ati. Os nad chi yw'r derbynnydd bwriedig, gofynnir ichi beidio â'i darllen na'i phrintio na'i hail-anfon, na'i storio na gweithredu yn ei chylch neu ynghylch unrhyw atodiadau iddi. Yn hytrach, hysbyswch yr anfonydd os gwelwch yn dda, gan ddileu'r neges o'ch system yn syth.
Dalier sylw nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy na'r anfonydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am feirws, a'ch cyfrifoldeb chi yw sganio'r atodiadau (os oes rhai).
Information in this message is confidential and may be privileged. It is intended solely for the person to whom it is addressed. If you are not the intended recipient please do not read, print, re-transmit, store or act in reliance on it or any attachments. Instead, please notify the sender and delete the message from your system immediately.
Please note that neither Conwy County Borough Council nor the sender accepts any responsibility for viruses and it is your responsibility to scan attachments (if any).'
|