Mae 'cael coed, rhoi coed' ar lafar yn ne-orllewin Cymru, yn golygu 'cael
crasfa, rhoi curfa', e.e. "Gesoch chi gôd yn y gêm ddo?"
Rwyf hefyd wedi clywed yr ymadrodd 'yn 'i choedo hi' ochrau Llambed am
yrru'n rhy gyflym neu'n afreolus, e.e. wrth ofyn sut yr oeddwn yn trin/gyrru
fy nghar clywais y cwestiwn, "Wyt ti'n 'i choedo hi?"
Owen
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
including [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn
Jones
Sent: 05 February 2002 08:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Coedio
Yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, o dan 'coediaf, coedaf, coedio, coedo', ceir
"Ar lafar ... yn y Gogledd am 'guro, pastynu' neu am ddianc neu ei gwadnu hi
i ffwrdd'".
O dan 'gyrraf', ceir 'rhedeg, rasio, cyflymu, carlamu', ond y syndod (i mi)
yw'r gosodiad: "Yn y Deau fel rheol golyga 'gyrru' 'teithio'n gyflym'".
Mae'n ymddangos bod hynny'n fwy gwir am y Gogledd na'r De ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: Ann Corkett
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, February 04, 2002 10:48 PM
Subject: Re: Coedio
Bruce yn dweud ei fod o wedi clywed pobl o Lyn/Eifionydd yn son am "ei
choedio hi" am yrru fel y diawl. Mae'n cytuno mai "gyrru" mae pobl Gwynedd
yn ei ddweud ar gyfer "sbi^dio".
Nos da,
Ann
|